Mathemateg Bellach

Sut oeddech chi’n teimlo pan ofynnwyd ichi addysgu drwy e-sgol? A sut ydych chi’n teimlo erbyn hyn?

Ar y dechrau roeddwn i’n nerfus am nad oeddwn wedi addysgu ar-lein o’r blaen, ond erbyn hyn dwi’n gyfforddus iawn ar ôl cael ychydig o brofiad. Mi gymerodd rywfaint o amser i ddod i arfer â’r dechnoleg newydd a pheidio â chael y disgyblion o fy mlaen yn gorfforol wrth addysgu, ond mi ddiflannodd y petruster hwnnw’n gyflym ac o fewn un neu ddwy o wersi roeddwn wedi addasu i’r dull newydd o addysgu.

Beth yw manteision addysgu drwy e-sgol?

Mae e-sgol yn caniatáu i ddisgyblion gael mynediad at bynciau sydd ddim ar gael yn eu hysgol nhw efallai, ac felly dydyn nhw ddim yn cael eu cyfyngu gan ble maen nhw’n byw.

Pa gymorth gawsoch chi i’ch helpu gyda’ch sesiynau e-sgol?

Mae’r cymorth gan y tîm e-sgol i sefydlu’r holl galedwedd a meddalwedd, a’r cymorth gwych gan ein technegydd TG wedi bod yn amhrisiadwy. Mae ein technegydd TG bob amser ar gael os oes yna broblemau gyda’r feddalwedd neu’r galedwedd.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i athro sy’n ystyried addysgu drwy e-sgol

Manteisiwch ar y cyfle a pheidiwch â bod ofn rhoi cynnig arni. Roedd gen i amheuon mawr pan ddechreuais i addysgu yn y ffordd hon ac roeddwn i’n hynod o nerfus. Ond, ar ôl dechrau defnyddio’r dull hwn o ddysgu, mi fyddwch chi’n dod i arfer yn fuan iawn ac yn canfod nad ydy o’n wahanol iawn i addysgu disgyblion mewn ystafell ddosbarth. Mi fuaswn i’n argymell yn bendant bod athrawon yn cynllunio ar gyfer ychydig yn llai o ryngweithio o du’r myfyrwyr nag y byddech yn ei ddisgwyl o addysgu wyneb yn wyneb. Ond ar y cyfan, mae e-sgol yn gweithio’n dda.