Pwnc: Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Pa brofiadau …. Positif iawn.  Ffordd wych o ymgysylltu â disgyblion mewn amrywiaeth ehangach o leoliadau.  Rydym wedi llwyddo i oresgyn ac addasu i unrhyw broblemau bach oedd gennym ar ddechrau’r flwyddyn, oherwydd y cymorth a gawsom gan Gareth.  Mae’n grêt gweithio ar draws canolfannau hefyd!

Pa gyfleoedd… Mynediad at gyfleoedd ôl-16 ehangach.  Hefyd, cyfle i ddisgyblion gydweithio â disgyblion eraill o ganolfannau eraill.  Diwrnodau ‘wyneb yn wyneb’ wedi bod yn amhrisiadwy i ddisgyblion allu atgyfnerthu’u dysgu, a chynnig mwy o gyfle i ganolfannau gydweithio â’i gilydd.  Hefyd, cyfle i ddisgyblion fanteisio ar arbenigedd canolfannau, sydd ddim ar gael ganddyn nhw efallai.

Pa gyngor… Dod yn gyfarwydd â’r dechnoleg i ddechrau a gwybod ble i fynd am gymorth.  Hefyd, dod i arfer efo Microsoft Teams, sy’n adnodd gwych.  Gwneud yn siŵr bod eich adnoddau’n dda a bod disgyblion yn gallu cael mynediad atyn nhw’n nes ymlaen.  Trefnu cyfres o ddiwrnodau lle gall yr holl ddisgyblion ddod i’ch canolfan i gael sesiwn wyneb yn wyneb.