Rhian Rees-Thorne

Arweinydd e-sgol De Cymru

Cafodd Rhian ei phenodi i rȏl Cydlynydd e-sgol ym Mai 2021. Yn ei rȏl gydag e-sgol, mae Rhian yn cynorthwyo’r tȋm i gydlynu’r prosiect mewn ysgolion ar draws De Cymru, gan sicrhau bod ysgolion, athrawon a disgyblion yn cael hyfforddiant ac arweiniad digonol i sicrhau bod y prosiect e-sgol yn un hwylus a llwyddiannus.

Mae Rhian wedi gweithio ym myd addysg ers 1997, fel athrawes Gymraeg uwchradd, Pennaeth y Gymraeg, Pennaeth y Chweched Dosbarth, Uwch Reolwr a Darlithydd ym maes Hyfforddiant Addysg Gychwynnol Athrawon.

Y tu allan i’r gwaith, mae Rhian yn mwynhau’r Celfyddydau ac mae’n byw gyda’i theulu ifanc yn nhre’r Sosban.

View our other staff…

Nia Jones

Nia Jones

Ymunodd Nia â thîm e-sgol ym mis Gorffennaf 2022. Nia sydd yn rheoli'r prosiect Carlam Cymru. Y prosiect cenedlaethol hwn yw'r gangen o e-sgol sy'n gyfrifol am gomisiynu, creu, cynnal a chadw casgliad o fideos sy’n cefnogi myfyrwyr gyda’u hadolygu. Ceir fideos ar dair...

Llifon John Ellis

Llifon John Ellis

Penodwyd Llifon yn Bennaeth Strategol e-sgol ym mis Ebrill 2022 wedi iddo dreulio 12 mlynedd fel athro uwchradd ac uwch arweinydd mewn ysgol gydol oes yng nghanolbarth Cymru gyda chyfrifoldebau dros y Chweched Dosbarth a’r adran Gymraeg. Bu’n gweithio’n agos â...

Matt Edwards

Matt Edwards

Cafodd Matt ei secondio i rôl cynghorydd cymorth technegol TGCh e-sgol rhan-amser yn Hydref 2020. Gan weithio’n agos a’r tîm o gydlynwyr, ei brif rôl yw darparu cyngor strategol ac arweiniad technegol i dîm prosiect e-sgol, yn sgil ei brofiad helaeth o weithio gyda...