Llifon John Ellis

Pennaeth Strategol

Penodwyd Llifon yn Bennaeth Strategol e-sgol ym mis Ebrill 2022 wedi iddo dreulio 12 mlynedd fel athro uwchradd ac uwch arweinydd mewn ysgol gydol oes yng nghanolbarth Cymru gyda chyfrifoldebau dros y Chweched Dosbarth a’r adran Gymraeg. Bu’n gweithio’n agos â chydlynwyr e-sgol dros y blynyddoedd i allu cynnig amrediad eang o brofiadau i’w ddisgyblion.

Fel rhan o’i rôl gydag e-sgol, prif ddyletswyddau Llifon yw arwain tîm brwdfrydig o gydlynwyr blaengar wrth sicrhau parhad yn natblygiadau amrywiol e-sgol gan warantu ansawdd y ddarpariaeth wrth i’r prosiect dyfu o nerth i nerth ledled Cymru.

Tu hwnt i’w gyfrifoldebau gydag e-sgol, mae Llifon yn mwynhau treulio’i amser gyda’i wraig, Nia, a’u merched Mirain Grug a Mali Enlli. Mae’n aelod o Gôr Meibion Machynlleth ac yn olygydd y papur bro; Y Blewyn Glas.

View our other staff…

Glenda Haf Jones

Glenda Haf Jones

Ymunodd Glenda â thîm e-sgol fel Arweinydd Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2024. Yn ei rôl gydag e-sgol, mae Glenda yn cynorthwyo’r tîm i gydlynu’r prosiect mewn ysgolion ar draws Gogledd Cymru, gan sicrhau bod ysgolion, athrawon a disgyblion yn cael hyfforddiant ac...

Huw Gruffydd Davies

Huw Gruffydd Davies

Penodwyd Huw fel Arweinydd Cynradd cyntaf e-sgol ym mis Tachwedd 2023 i arwain ar y datblygiadau cyffrous yn hanes y project. Cyn ymuno ag e-sgol, bu Huw yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd Rhos Helyg, Ceredigion. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau amrywiaeth o chwaraen yn...

Siwan Richards

Siwan Richards

Ymunodd Siwan â thîm e-sgol fel Rheolwr Prosiect Ymlaen gyda’r Dysgu ym mis Chwefror 2023. Mae’r rôl yn hybu sesiynau magu hyder a hogi sgiliau siarad Cymraeg disgyblion 16-18 oed, dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mewn partneriaeth ag e-sgol. Siwan sy’n...