Stephen Williams

Cafodd Stephen ei secondio i rôl cydlynydd e-sgol ym Medi 2020 o ERW cyn cael ei benodi’n llawn amser yn Ebrill 2022. Yn ei rôl gydag ERW, roedd yn cynorthwyo ysgolion ar draws y rhanbarth i ddatblygu dysgu digidol a diwygio’r cwricwlwm. Fe rhan o’i gyfrifoldebau gydag e-sgol, mae Stephen yn cynorthwyo’r tîm i gydlynu’r prosiect yng Ngheredigion a Phowys, gan sicrhau bod ysgolion, athrawon a disgyblion yn cael hyfforddiant ac arweiniad digonol i wneud yn siŵr bod y prosiect e-sgol yn un hwylus a llwyddiannus.

Mae Stephen wedi gweithio ym myd addysg ers 2006, yn bennaf fel athro ysgol gynradd yn Hwlffordd. Yn ystod yr amser hwnnw, roedd yn eiriolwr dros ddysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth, a sicrhau bod technoleg yn cael ei defnyddio fel câs pensiliau i wella’r dysgu a’r addysgu. Yn 2016, cafodd Stephen ei gyflogi gan ERW ac roedd ei rôl yno’n cynnwys cynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd, o fewn awdurdodau lleol y rhanbarth, i ddatblygu cyfleoedd dysgu digidol ar gyfer eu disgyblion. Rhan fawr o waith Stephen hefyd oedd cynorthwyo ysgolion i ddeall y Cwricwlwm i Gymru a’i roi ar waith.

Y tu allan i’r gwaith, mae Stephen yn mwynhau pob math o chwaraeon, gan gynnwys rygbi a rhedeg. Mae’n aelod egnïol o Glwb Rhedeg Aberteifi, ac mae wedi cwblhau marathon Llundain a marathon Eryri. 

View our other staff…

Nia Jones

Nia Jones

Dechreuodd Nia yn ei rôl fel Cydlynydd Gweithredol e-sgol ym mis Gorffennaf 2022. Ymhlith ei dyletswyddau, mae Nia yn cydlynu'r prosiect Carlam Cymru yn genedlaethol, yn cydlynu cynhadledd flynyddol e-sgol, ac yn rheoli'r cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau...

Llifon John Ellis

Llifon John Ellis

Penodwyd Llifon yn Bennaeth Strategol e-sgol ym mis Ebrill 2022 wedi iddo dreulio 12 mlynedd fel athro uwchradd ac uwch arweinydd mewn ysgol gydol oes yng nghanolbarth Cymru gyda chyfrifoldebau dros y Chweched Dosbarth a’r adran Gymraeg. Bu’n gweithio’n agos â...

Rhian Rees-Thorne

Rhian Rees-Thorne

Cafodd Rhian ei phenodi i rȏl Cydlynydd e-sgol ym Mai 2021. Yn ei rȏl gydag e-sgol, mae Rhian yn cynorthwyo’r tȋm i gydlynu’r prosiect mewn ysgolion ar draws De Cymru, gan sicrhau bod ysgolion, athrawon a disgyblion yn cael hyfforddiant ac arweiniad digonol i sicrhau...